24/08/2010

Heno ar Gofod!


Heno ar Gofod ma gyda ni eitem am ffilm newydd ar-lein wedi ei gynhyrchu yng Ngaherdydd o'r enw Pizzaman, cerddoriaeth gen Dan Lloyd, Russel Jones yn cael torri ei wallt, Shwmae Shwmae gyda Lisa Jen a dau aelod o Nos Sadwrn Bach yn mynd am drip i Ynys y Barri i chwarae ar y peiriannau dwy geiniog. And here is the rest of it. Darllen mwy...

Be ddysgon ni ar Gofod wythnos dwetha?

Ma na lythyrau i Cerys Matthews yn dal i fynd i dy yn Splott.
Ma'n rhaid i Cadi Fon gymryd gofal bod ei nicers ddim yn hongian allan o waelod ei leggings wrth wisgo yn y bore.
Ma reslars 'Sumo' yn rhedeg yn gynt nac y bysech chi yn meddwl.
Sian Davies, 'un hanner o Ryan Kift' sy'n hoffi poen.
Ma Sian Lloyd yn poeni bod Michael a'i dacsi yn ei dilyn. Efallai ei fod wedi ei dal hi yn son am ben ol tew ei ffrind.
Gwenno Hodgkins sydd ishe anfon plant Cymru ar gwrs gloywi iaith.
Swydd waethaf Russel Jones oedd bod yn swyddog diogelwch. Rownd bapur oedd swydd waethaf Huw Stephens. Gary Slaymaker oedd yn stacio shilffoedd ar un adeg, ond gweithio mewn ffatri yng Nghaer oedd swydd gwaethaf Gethin Ev.
Darllen mwy...

11/08/2010




Rhai o'n lluniau 'steddfod. Huw Owen yn bawdio o amgylch y maes, Magi Dodd yn glaw Glyn Ebwy a criw Gofod wrthi yn ffilmio. Darllen mwy...

10/08/2010

Rhifyn arbennig o Gofod o'r Eisteddfod heno.
Tacsi i'r Archdderwydd.
Cyfweliad gyda Magi Dodd
Mr Huw yn rhoi ei fawd i fyny llefydd ar y maes...
Can gan Wyrligigs
'Pishyn yr Wyl' ydi Becky Gallagher.Naeth hi dynu peint i chi ar y maes?
Gareth Potter yn Gadael yr Ugeinfed Ganrif
A'r perfformiad Karaoke gorau yn y Gymraeg erioed. ( o bosib )10pm HENO.
Darllen mwy...

14/07/2010

Beth ddysgon ni ar Gofod neithiwr. > Ma Morgan Jones ishe bod yn ddyn lori bins. Ei freuddwyd bydde cael dal ymlaen i bolyn ar y lori ludw wrth iddo yrru iffwrdd.
> Os i chi yn mynd i reidio beic yn noeth, mae'n werth prynnu beic call. Mae'r 'chafing' yn gallu bod yn wael fel arall.
> Cafodd Anthony Evans datww yn Ibiza.
> Ma Gwawr Loader yn hoff o ddynion sy'n gweithio'n galed.
> I gyd ma Iwan Charles ishe cyn diwedd y byd yw Grand Slam arall i Gymru.
> Ma gyda pawb rhywbeth gwahanol i edrych ymlaen ato yn y Sioe yn Llanelwedd. 'Artillery' i Anthony Evans, defaid i Jams Thomas, bar Stockmans i Dylan Ebenezer a geifr i Gareth Potter. Ma fe'n hoff o'u llygaid.
Darllen mwy...

09/07/2010

Beth ddysgon ni ar Gofod wythnos yma? Ma byd Elin Harries yn binc, ei hoff seren bop yw Christina Aguilera a bydde hi wrth ei bodd yn snogio Johnny Depp.Ma Dyl Ebs yn hoff o ddyfyny Dave datblygu, ma Tara Bethan yn hoff o ddyn sy'n gallu gwneud 'wolf whistle' a Sbaen yw dewis mwyaf poblogaidd selebs Gofod i ennill cwpan y byd... falle cewn nhw eu ffordd! Darllen mwy...

06/07/2010


Heno ar Gofod. Yr Ods yn perfformio can yn stafell ffrynt un o'u ffans, Shwmae Shwmae Dylan Ebenezer, Plac Glas i Sain, Elin Harries yn ymuno a Gethin ac Elen yn y stiwdio, cyfle i gwrdd a rhai o staff drysau tafarndau a chlybiau Cymru a dal lan gyda ymdrech diweddaraf Gofod i ffeindio Mr Ffermwr Ifanc Cymru. - a tro Ynys Mon yw hi wythnos yma. Darllen mwy...

Pishyn yr wythnos. Luned Jones oedd ein pishyn wythnos dwetha. Cofiwch, os i chi am fod yn bishyn yr wythnos neu yn nabod rhywun ddyle fod, cysylltwch a ni trwy'r blog! Darllen mwy...

29/06/2010


Heno ar Gofod!Cerddoriaeth gen Plant Duw! Gwyneb radio Kev Bach! Tacsi i Bryn Terfel! Luned Jones yw Pishyn Yr Wythnos! Cyfle i gwrdd a superffans Dafydd Iwan! Chwilio am Mr Ffermwr Ifanc 2010 yn Caerfyrddin! Rhaglen llawn dop arall. S4C am 10 heno 'ma. Darllen mwy...

24/06/2010

Be ddysgon ni ar Gofod wythnos yma? Ma gyda chwaraewyr darts Cymru lysenwau gwych - John 'Y Llywydd' Williams, Chris 'The Mint' Murray, Dona 'Kebab' Jones a Dilwyn... 'Darts' Williams.

Doedd Alex Jones byth yn sylweddoli fod Bryn Fon yn ffan

Ma Alex Jones yn gallu bwyta swiss roll mewn 23 eiliad.

Ma tad Wyn Evans wedi cael llond bol o'r hysbysebion y mae ei fab yn cymryd rhan ynddynt.

Mae gyda Huw Stephens alregedd i geffylau, fel naeth e ddarganfod yn Llangrannog un tro.

Does gan Lara Catrin ddim profiad gyda ffarmwrs. Roedd ei ffefrin, Elgan, yn teimlo yn 'anrhydeddus iawn' o gael ei ddewis i fynd ymlaen i'n ffeinal yn Llanelwedd.

Mae un o ffans y Bandana, Elin Haf Griffiths, wedi bod i weld y band bron cant o weithiau!

Dyw ser Gofod ddim yn tueddi bod yn dal iawn, ond ma na rhai dros eu 6 troedfedd, gan gynnwys Huw Stephens sy'n 6'1 a Bryn Terfel, sy'n 6'3.
Darllen mwy...

22/06/2010


Heno ar Gofod. os ydych chi yn ffan o hysbysebion cwmniau cymharu yswiriant arlein, gyda cantorion opera yn canu sloganau'r cwmni nerth eu pen yna ma'n RHAID i chi wylio Gofod heno i'n gweld ni yn gosod Plac Glas sy'n dathlu llwyddiant Cymro sy'n enwog iawn am ei hysbyseb arddull opera am wefanau cymharu yswiriant. Allwch chi ddyfalu am bwy i ni yn son? A beth arall sydd ar rhaglen heno, mi glywaf chi'n gofyn. Wel. Neb llai na HUW STEPHENS yn y tacsi gyda Michael. A hynny yn Llundain. Yr hyfryd Alex Jones sydd ar y soffa gyda Geth ac Elen, mae'r daith i ffeindio Mr Ffermwr Ifanc yn mynd i Feirionydd, Y Bandana yn perfformio i'w ffans ac (a ma hwn yn sbeshal) eitem o bencampwriaethau darts Cymru yn Lakeside Cymru - Prestatyn. Tiwniwch mewn! Darllen mwy...

18/06/2010

Pishyn yr wythnos
Ma Gofod wastad yn hoff o gwrdd a merched a hyd yn oed bechgyn dela Cymru. Y 'pishyn' cynta i ni gwrdd a oedd Lowri Davies, cynorthwydd dysgu o Ddinbych. Ma hi'n hoff o golff, mynd allan ar nos Sadwrn a mwy nag unrhywbeth arall, karaoke. Yn wir, ma Lowri mor hoff o nosweithi o ganu karaoke ei bod yn dweud fod rhid i'w dyn delfrydol fod yn ffan hefyd. Ar ben hynny, ma'n rhaid iddo fod yn dal a'n gyfoethog. Ond byse hyd yn oed dyn o'r fath yn ei chael yn anodd cystadlu a'r demtasiwn i fynd i Gaer am benwythnos gyda'r merched i aros mewn gwesty ac, wrth gwrs, canu karaoke - y ffordd perffaith i dreulio penwythnos yn ol Lowri. Darllen mwy...

Be ddysgon ni ar Gofod wythnos yma. Y peth cynta i ni ddysgu oedd fod Salon Alison (neu Split Endz)ar agor nawr i selebs Cymru gael torri eu gwallt. Y cyntaf i fentro mewn oedd Tudur Owen. A be ddysgon ni am Tudur? Wel fod dau 'mole' ganddo ar gefn ei wddwr i ddechre, a bod ofn ganddo fod sisiwrn Alison yn eu torri iffwrdd!.

Beth arall? Wel naethon ni ddysgu fod y Cymro Hywel Lloyd, sy'n rasio ceir Formula 3, yn gallu cymryd cornel am 150 milltir yr awr, sy'n reit ddewr swn i yn meddwl.

Dysgon ni am dats Gary Slaymaker. Mae'n debyg fod y groes Geltaidd ar un fraich yna i'w atgoffa o'i Gymreicdod, a'r ddraig ar y fraich arall i'w atgoffa o'i fam! Gobeithio nad oedd hi'n gwylio hwna...

Dyw Branwen Gwyn ddim yn yfed te na choffi. Od iawn, weden i. A'n rhyfeddach fyth, cymeriadau Neighbours yn gadael y stryd sy'n eu gwneud hi i grio.

Ma Gai Toms yn hoff o farbeciw ac ymlacio mewn 'hot tub'. Iawn i rhai ond yw e?

Mi ddysgon ni rhywfaint am Erin Richards a beth sy'n ei phlesio. Aeth hi i rali ffermwyr ifanc Ceredigion i ddechre'r broses o ddod o hyd i Mr Ffermwr Ifanc Cymru 2010 a chware teg i'r ennillydd, Geraint, naeth e ei wahodd hi - a hyd yn oed Gethin Evans - i'w fferm. A be di Erin yn chwilio am mewn dyn? Dim lot - jest cryfder, sensitifrwydd, hyder, y gallu i neud iddi chwerthin...
Darllen mwy...

15/06/2010


Ma Gofod nol! Mae cyfres newydd o Gofod yn dechre heno am 2200 ar S4C, ac ma hi yn llawn dop. Yn ogystal a cherddoriaeth, sgwrsio a'r holl ffwlbri arferol, ma gyda ni eitem arbennig yn edrych ar rasio Formula 3 yng nghwmni Cymro o'r enw Hywel Lloyd, a'r cyntaf o nifer o eitemau newydd, fel y daith i ffeindio 'Mr Ffermwr Ifanc 2010', cwrdd a 'pishyn yr wythnos' gyntaf, ac ymweld a Salon Alison, lle fydd y ser yn cael torri eu gwallt. Tudur Owen yw'r cyntaf i wynebu'r sishwrn!

Darllen mwy...

18/12/2009

Shwmae Shwmae Ffion Williams?


Ffion Williams gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' olaf eleni, lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Fi’n iawn, diolch yn fawr. Shwd y’ch chi?

Blerwytirhwng?
Ar y foment fi rhwng pennod 5 a pennod 6 o Pentalar, drama newydd gan Fiction Factory sy’n dilyn Defi Lewis a teulu Pentalar. Defi Lewis yn cael ei chwarae gan Richard Harrington, o’r 60au hyd at nawr. Drama cyffroes amdano teulu a politics a phethe, a fy nghymeriad i Irfona jyst yn un o ffrindie Defi.


Pam fod eira’n wyn?
Ydyw e rwbeth i neud â’r ffaith bod shwd gymaint o liwiau yn y sbectrwm a ma dwr gyda pob lliw, bo ni jyst yn gweld gwyn achos bod ein penau ni jyst ffili cymryd mewn yr holl sbectrwm?

Ble mae’r bore?
Mae’r bore i fi wastad yn dechre gyda 2 poached egg ar dost brown a tymed bach o fenyn, cwpan o goffi a sigaret, cyn bo fi’n neud dim!

Beth yw’r haf?
Mae’r haf gorfod bod ar lan y môr rhwle. Haf dwetha aethon ni i Gernyw - fi a’n sboner - yn bac campervan, a gaethon ni amser gwych! Mae Cernyw yn le lyfli.

Pa loches?
Lloches yw tŷ mam a dad nôl ar ddydd Sul i gael cinio dydd Sul. Yorkshire puddings a beef gyda pen tost fel arfer o’r noson cynt!

Pwy wnaeth y sêr uwch ben?
Nes i ennill Steddfod Gylch yn yr Ysgol Gynradd yn canu ‘Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben?’ a cytgan ffefryn fi oedd ‘ Pwy Wnaeth yr Eliffant?’. ‘Na beth o’n i’n hoffi!

Pwy sy’n dwad dros y bryn?
Wel Sion Corn nath ddwad dros y bryn yn ddistaw ddistaw bach gyda loads o anrhegion lyfli i fi blwyddyn hyn so diolch yn fawr i ti Sion Corn am y coffi maker hyfryd gyda cappuccino steam frother ar yr ochr!

Ydio’n wir?
Ydy e’n wir bod ceffylau’r môr, as in seahorses, ddim yn tyfu i maint ceffyl? Achos tan cwpwl o fisoedd yn ôl o’n i actually meddwl bo nhw’n tyfu i maint ceffyl ac un o’n uchelgeision fi fel person oedd i reido seahorse. Ac yn ôl pob sôn, fi ddim yn cael neud e!

Pwy sydd isho bod yn fawr?
Ma problem mawr ‘da fi. I fod yn fawr o ran taldra, licen i fod cwpwl o fodfeddi yn llai achos bo fi’n 5’11”, a hefyd hoffen i fod yn fwy tenau. Rwy wedi joino Slimmers World ond odd hi’n anodd iawn dros Dolig cadw ato fe so fi ‘di bod yn osgoi mynd ar y scales!

Pwy sy’n galw?
Ma ffôn-ffobia ofnadwy ‘da fi. Os ma rhywun yn galw a nagyw’r enw yn dod lan, fi byth yn ateb a fi’n rili sori ma rhaid i chi adael neges i fi wybod pwy sy’n galw. Na’i alw chi nôl straightaway!

Fuoch chi erioed yn morio?
Aethon ni i morio, pysgota, am frithyll pryd o’n i yn Solfa ddwetha. Experience hyfryd. Gaethon ni lot, lot o frithyll a fi’n dwli ar byta pysgod!
Darllen mwy...

Shwmae Shwmae Russell Jones?


Fe gymerodd Russell Jones rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae', lle mae pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
O, iawn sdi! Champion!

Blerwytirhwng?
Dwi rhwng Penygroes a Caernarfon. Yn Rhosgadfan dwi’n byw, pentra bach i fyny ar ben mynydd yn fama.

Pwy sy’n dwad dros y bryn?
Wel mae jyst yn dolig, a wedyn gobeithio ‘na Sion Corn fydd o ‘de!

Ydy o werth o?
O yndi, mae o werth o ‘de. Ma raid i chdi goelio yn be wyt ti’n gredu a jyst mynd ymlaen efo’r peth de.

Pwy fedar olchu?
Ma nghariad yn un da yn golchu, ma hi’n cael staens allan o bob math.

Pwy all brynu dy feddyliau?
Wel ar hyn o bryd Byw yn yr Ardd sy’n prynu’r meddyliau ond dwi’n agorad i ryw fudiad Merched y Wawr neu Ffermwyr Ifanc neu be bynnag, ti’n gwbod, mwydro nhw am y ieir a pethe de!

I ba beth mae’r byd yn dod?
Wel dwi’m yn gwbod. Ma hwnna’n gwestiwn mwy nag y gella i ateb de, ond dwi’n trio helpu’r byd fel ma’n mynd yn ei flaen.

Pwy wnaeth y sêr uwchben?
Dwi’m yn gwbod. Dwi’n meddwl bod y sêr yma’n barod ‘llu.

Pwy sy’n galw?
S’nam llawer yn galw ar hyn o bryd. Da ni’n byw yn lle mor uchal a da ni mor brysur sa neb yn galw acw ‘di mynd de.

Oes rhaid i’r wers barhau?
Ma’n bwysig bod y wers yn parhau. Ma rhaid i mi ddeud ‘tha bobol y ffordd i blannu a’r ffordd i drin y tir, a’r ffordd i beidio gwastraffu. Mae’n bwysig.

Pam fod adar yn symud i fyw?
Wel ma’n dda bod adar yn symud i fyw. Am bo dwi’n magu gymaint o ieir, ma’n dda bo nhw’n cael hyd i cartrefi newydd i fi gael magu mwy ohonyn nhw de!
Darllen mwy...

Shwmae Shwmae Bethan Gwanas?


Fe wnaeth Bethan Gwanas gymryd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae', lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg, a dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Ofnadwy o stiff heddiw achos fues i’n merlota ddoe a nes i ddisgyn ar fy mhen ôl.

Blerwytirhwng?
Rhwng 84 ac 86 o’n i yn y bush yn Nigeria achos o’n i newydd adael coleg ac o’n i wedi mynd i fyw yna am ddwy flynedd. A dyna’r peth gore nes i erioed, a dach chi’n gwbod be, dwi’n mynd nol yna yn yr Hydref i weld os ydy’r hen blant ysgol yn dal i nghofio fi. Mi fyddan nhw yn eu 30au wan! Oho!

Beth yw’r haf?
Fel arfer dwi wrth fy modd efo’r haf. Dwi’n mynd i lan y môr, dwi’n dringo mynyddoedd, dwi’n cysgu yn yr hamoc yn yr haul yn y ngardd i, ond eleni mae ‘di bod yn uffernol dydy felly di’r hamoc ddim ‘di bod allan a dwi ddim ‘di bod fyny run mynydd eto! Ella bod hi well yn yr eira beth bynnag.

Ydio’n wir?
Wrth gwrs bod o ddim yn wir. Ma genna’i ddychymyg chi! Di bob dim dwi’n sgwennu ddim yn wir nachdi. Felly stopiwch feddwl hynny, reit!

Pwy all brynu dy feddyliau?
Unhryw un sy’n darllen y Daily Post ar ddydd Mercher achos dwi’n sgwennu bob dim dwi’n deilmo mewn yn hynna bron iawn, ac wrth gwrs unrhyw un sy’n prynu fy llyfrau i achos ma sens yn deud ma’n meddyliau fi ynddyn nhw yndi!

Pwy wnaeth y sêr uwchben?
Reit dwi’m yn siwr am hwn achos, esh i i ysgol Sul ond nesh i erioed gredu yn Duw ychi. Dwi’n meddwl na uffarn o bang mawr nath y sêr. Sori Nain!

I ba beth mae’r byd yn dod?
I ben, ma arna’i ofn, yn ara bach. Os na newidiwn ni ein ffyrdd.

Wyt ti’n cofio?
Bod yng nghyngerdd ola Edward H yn, dwi’m yn cofio pryd oedd o ond dwi’n cofio fo achos o’n i’n uffernol o ifanc, dan oed, ddim ffit i fod allan ac adeg hynny odd pawb yng ngtymru ifanc yng nghymru yn addoli un grwp, sef Edward H. Ac o’n i yna, yng Nhorwen! O’n na gymaint o bobl yna odd yn nhraed i ddim yn cyffwrdd y llawr ac oedd na gymaint o chwys odd o’n disgyn ar eich pen chi fatha glaw o’r nenfwd. O’n i yna!

Pwy sy’n galw?
Dyddie yma, yn gyson, wel, y postmon!

Oes yna le i mi?
Oes yna le i mi yn dy fywyd di? Na, ti rhy hwyr yn fflipin gofyn. Lle ti di bod eh? Iasu, ma isho mynadd.

Fuest ti erioed yn morio?
Do, fuesh i’n balast ar long hwylio yn harbwr Lagos ac os ydach chi wedi bod yn Lagos erioed dach chi’m isio cael eich pen yn y dwr achos ma’n llawn o gyrff pethau wedi marw. A hefyd dwi’n gallu hwylio, diolch i Yr Urdd a Glan Llyn!

Pam V?
Achos dwi’n i haeddu o!
Darllen mwy...

01/12/2009

Shwmae Shwmae Ceri Cunnington?


Ceri Cunnington gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos dwetha ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Yn reddfol dwi isho deud Iawn, ie ie, ond, yh - Iawn. Ie, ie!

Bing Bong be?
Ydy'r gân gynta dwi'n cofio wrth cael peint legal yn y Tap yn Blaenau Ffestiniog. Mae wastad yn dod allan ar ôl rhyw un fach.

Blerwytirhwng?
Rhwng penderfynu os ydy bywyd cerddorol neu bywyd gwaith 9 tan 5 yn siwtio fi ora.


O le ga'i eda?
Ydy'r gân waetha dwi erioed wedi clywad yn fy mywyd. Sori Gai!

Cenfigennus o be?
Capacity Rhys Mwyn i anghofio be oedd y 90’au fel go iawn yn y sîn roc Gymraeg. Y clown!

USA, oes angen mwy?
Oes. Mae hi ychydig bach yn hyberbole yna ar y funud efo bob dim sy'n digwydd a dwi'n meddwl bo rhaid i ni sbio ar ein hunan cyn sbio at America am ryw fath o arweinyddiaeth. Er, ma be sy'n digwydd yna'n grêt.

Ble mae'r bore?
Y bore ydy deffro efo Cadi am chwarter wedi pump. Cadi ydy'r ferch, a y bore ydy'r ore. Mae bob bore fatha bore Dolig! Ffwc - cheesy!

Pwy sy'n dwad dros y bryn?
Llwyth o sgowsars yn eu Ford Capris gwyn yn llawn danteithion peryg i bobol Blaenau.

Pam wyt ti'n wylo wylo?
Yn hawdd, yn rhy hawdd. Pan dwi'n gwylio, gwylio teledu.

Yyh?
Yn union. Dwi'n meddwl taw honna ydy'r teitl cân gora’ erioed.

Lle ti di bod?
Dwi 'di bod mewn sefyllfaoedd eitha diddorol, anghyfforddus, cyfforddus, anhygoel, bendigedig. Dwi 'di bod yna er mwyn cael dod yn ôl.
Ers i Anweledig chwalu dwi di bod yn neud yr un peth a cyn i Anweledig chwalu. Gweithio yn y swydd 9 tan 5 'na o'n i'n trio penderfynu os o'n i isho gweithio ynddi. Ond os ydy bosys fi'n gweld bo fi'n cwestiynu os dwi'n gweithio yn y swydd 9 tan 5 yna, dwi'n probably colli'r job 9-5 yna. Sori - dwi isho gweithio yn y job 9 tan 5 yna!

Ges di dy buro yn fflamau'r tân yma?
Dwi'n gobeithio gesh i'm mhuro yn fflamau'r tân dwetha ond na'i fyth deud, “Never Say Never” fel dywed y Sais.
Darllen mwy...

30/11/2009

Beth ddysgon ni wythnos dwethaf ar Gofod

Ma ffilm newydd Gruff Rhys, Seperado!, yn wych – ac roedd Geth yn flin am nad oedd yn cael mynd mewn i’w weld.

Ma Michael y Tacsi yn hapus i helpu Malcolm Allen allan gyda’i ffurflen dreuliau...

Llysenw Geth oedd FA Cup yn yr ysgol am fod ganddo glustiau mor fawr. Ma gyda rhai o enwogion Cymru lysenwau da – John Bwts yw John Pierce Jones a Honey Monster yw Ifan o Derwyddon, gyda’i wallt melyn a’i wallgofrwydd meddwol. Ond mae gan y cyhoedd lysenwau gwell fyth, Hari Tampon, er engraifft. Ydych chi’n cofio pam ma nhw’n galw fe’n Hari Tampon?

Ma Owen Powell yn genfigennus o gerddorion sy’n gallu canu mwy nag un offeryn.

Ma Geth yn hoff o fwyd poeth, allith e ddim fyw heb gyri, ond ma Elen yn hoff o fwyd mwy melus – fferins ydy’r peth y galle hi fyth byw hebddo. Darllen mwy...

25/11/2009

Shwmae Shwmae Owen Powell?


Owen Powell gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Iawn, ie ie.

Blerwytirhwng?
Wel rhyw hanner ffordd - mewn gwirionedd union hanner ffordd - rhwng Gorllewin Cymru a Llundain. Mae 'na bentref bach o'r enw Caerdydd, ac yna dwi ar hyn o bryd. Bydden i’n hoffi bod yng Ngorllewin Cymru yn neud llai o waith. Falle dylwn ni fod yn Llundain yn neud fwy o waith! Ond yma dwi'n hapus, so Caerdydd sydd pia hi.

Cenfigennus o be?
Dwi wastad wedi bod yn genfigennus o gerddorion sydd yn gallu chwarae pob offeryn felly ma nhw'n neud albyms, a dim ond nhw sy'n chwarae arnyn nhw. Elliot Smith - cerddor Americanaidd; Shuggie Otis - cerddor ffync o'r 70au. Chwarae pob offeryn! Todd Rundgren yn un arall. Prince! Stevie Wonder! Ychydig iawn o bobl gwledydd Prydain a Cymru sydd yn neud y math yma o beth, ma'n rhywbeth sy'n perthyn i Americanwyr. Felly dwi'n genfigennus o gerddorion Americanwyr yn gyffredinol!

Faswn i, fysa ti?
Ma rhywbeth reit cheeky am y cwestiwn yna! O'n i wastad wedi cymryd bo bechgyn Brigyn ddim cweit mor cheeky a hynna. O'n i ddim yn disgwyl i Ynyr a Eurig fod mor “hei, fyswn i! Fysa ti?”. Alla i ddychmygu'r ddau ohonyn nhw yn y stiwdio neu mewn tacsi neu ar y bws yn gweld merch yn cerdded heibio ac yn dweud, “Faswn i! Fysa ti?”. Falle nid dyna ystyr y gân o gwbwl, ond faswn i. Probably.

Pam fod adar yn symud i fyw?
Dyw e ddim yn wyddonol gywir achos dyw nhw ddim yn symud i fyw, ma nhw'n symud dros y gaeaf i le gwell. Ac o ystyried y tywydd ni'n cael yn y wlad yma dwi'n meddwl bod e'n syniad eitha doeth. Felly ma nhw'n symud i rywle poeth - rhywle neisach - fel Sbaen neu Gogledd Affrica, a dy'n nhw ddim yn symud yna i fyw achos ma nhw'n dod nol wedyn i nythu. Felly dyna'r gwirionedd, ramadegol gywir, ffeithiol, wyddonol. Amen!

Be fedra i gynnig?
Sdim lot fawr 'da fi i gynnig rili. Yr unig beth alla i gynnig ydy lifft yn fy Land Rover i. Ma 'da fi hen Land Rover sydd 'di kitio allan fel campervan a ma 'da fe'r roof-rack mawr yma arni. Felly arwahan i’r ychydig sgiliau sydd gyda fi mewn bywyd, byddwn i yn gallu cynnig lifft i chi os chi'n digwydd hoffi mynd mewn Land Rovers sydd yn llawn dwr a sydd ddim yn dwym iawn. So alla'i gynnig hynna!

Ble mae'r bore?
Odd teitl y gân yma, neu'r cwestiwn yma, wastad yn atgoffa fi o partïon yr 80au hwyr a'r 90au cynnar, ble oedd pobl yn mynnu partïo reit trwy'r nos. A dwi'n siwr bo pobl ifanc yn dal i neud. Ond weithie, tua 4, 5 o'r gloch pan ma pobl dal i fyny'n siarad ac yn chwarae cerddoriaeth trwy'r PA systems ti'n meddwl, “ble exactly mae'r bore?” A chi'n dechre ysu am fynd i'r gwely a sylweddoli bo chi 'di troi yr holl ddiwrnod a'r holl noson yn beniwaered achos chi dal yn effro pryd ma'r haul yn dod i fyny pryd dylech chi fod yn y gwely ac yn codi, a chi'n mynd nol i'r gwely wedyn pryd ma'r haul wedi dod reit i fyny. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn neud unrhyw sens, ond yr holl deimlad yna o ble mae'r bore, dyw e ddim i fod i neud sens rili nagyw e?

Iawn del?
Yma yng Nghaerdydd dy' ni ddim yn gweud “Iawn del?” - yn amlwg mae'n rhywbeth o'r gogledd. Yng Nghaerdydd yn arbennig da ni'n dweud “Alright love?”. A'r dyddie yma ma “Alright love?” neu “Iawn del?” yn rhywbeth sydd jyst yn gyfarch hamddenol, rhywbeth neis chi'n ddweud wrth rhywun. “Alright love?”. Ma'r math yna o beth 'di mynd yn amhoblogaidd achos bod e i fod yn sexist, ond yma yng Nghaerdydd, ma pobl jyst yn gweud “Alright love?” - chi'n dweud e ar y bys i bobol, i bobol chi ddim yn nabod, a dwi'n siwr bod yr un peth yn wir yn gweud “Iawn del?” i bobol. Ydy e'n dderbyniol? Sa i'n gwbod. Dwi dal i ddweud e! Alright love?!

Pwy sydd eisiau bod yn fawr?
Wel, dwi'n eitha tal. Dwi'n rhyw 6 troedfedd 4 modfedd, a alla i sicrhau chi bo fi ddim mo’yn bod yn fawr. Y rheswm ydy ma'n neud prynu trowsus yn anodd iawn - ma cael jins bron yn amhosib! Pan o'n i'n ifanc, os chi'n dal ac yn fawr chi yw'r person cyntaf sy'n cael trafferth mewn unrhyw pyb. Chi'n cerdded mewn i pyb gyda grwp o ffrindiau sydd i gyd yn normal, a wedyn os oes yna unrhyw fath o drafferth o gwbwl, ma pawb yn pigo ar y person sy'n dal! A fi oedd e, so dwi ddim isie bod yn dal ddim mwy diolch yn fawr iawn. Dwi ddim isie bod yn fawr chwaith.

Pwy sy'n rheoli'r donfedd?
Be sy'n ddiddorol am dechnoleg a'r byd sydd ohoni ar hyn o bryd, yw mae'n bosib mewn cwpwl o flynyddoedd fydd na ddim shwt beth â tonfedd. Ar hyn o bryd bydden i'n gweud taw Radio Cymru a Radio 1 sy'n rheoli'r donfedd, ond gyda symudiadau pobl yn gwrando onlinea satellite radio, a fydd shwd beth â tonfedd? Y peth yw bo pobl yn gallu dewis nawr. Dy’ nhw ddim yn gorfod gwrando ar Chris Moyles yn siarad yn y bore - ma nhw jyst yn gallu mynd ar Spotify a gwrando ar gerddoriaeth heb cael lleisau drwyddi draw. Mae'n dibynnu ar be chi moen ond ar hyn o bryd Radio Cymru a Radio 1 sy bia'r donfedd, ond bydden i'n meddwl mewn rhyw ddeg mlynedd bydd tonfeddi ddim yn bodoli dim mwy.

Fuoch chi erioed yn morio?
Do. Fe fues i'n morio ym Mae Ceredigion unwaith gyda mhlant, a o'n i 'di rhyfeddu ar gymaint o wahanieth sydd rhwng y tywydd ar dir carregog saff ac ar y môr. Hynny yw, chi'n gadael Dinbych y Pysgod a mae'n boeth a chi'n gwisgo crys-t a ma pawb yn hapus. Rhyw ddwyawr wedyn yn y glaw allan yng nghanol y môr, dodd pawb ddim cweit mor hapus. Odd gen i gynlluniau i fynd i morio eto eleni. A fod yn onest dydy mynd ar rhyw cruise bach o ddwyawr ddim rili yn morio. Dyw e ddim fel bo ti'n ymuno â'r Royal Navy neu'r Merchant Navy so dyw e ddim yn rili morio. Ond dyna'r agosa dwi di dod at forio, felly do, fe fues i yn morio!

Darllen mwy...