25/11/2009

Shwmae Shwmae Owen Powell?


Owen Powell gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Iawn, ie ie.

Blerwytirhwng?
Wel rhyw hanner ffordd - mewn gwirionedd union hanner ffordd - rhwng Gorllewin Cymru a Llundain. Mae 'na bentref bach o'r enw Caerdydd, ac yna dwi ar hyn o bryd. Bydden i’n hoffi bod yng Ngorllewin Cymru yn neud llai o waith. Falle dylwn ni fod yn Llundain yn neud fwy o waith! Ond yma dwi'n hapus, so Caerdydd sydd pia hi.

Cenfigennus o be?
Dwi wastad wedi bod yn genfigennus o gerddorion sydd yn gallu chwarae pob offeryn felly ma nhw'n neud albyms, a dim ond nhw sy'n chwarae arnyn nhw. Elliot Smith - cerddor Americanaidd; Shuggie Otis - cerddor ffync o'r 70au. Chwarae pob offeryn! Todd Rundgren yn un arall. Prince! Stevie Wonder! Ychydig iawn o bobl gwledydd Prydain a Cymru sydd yn neud y math yma o beth, ma'n rhywbeth sy'n perthyn i Americanwyr. Felly dwi'n genfigennus o gerddorion Americanwyr yn gyffredinol!

Faswn i, fysa ti?
Ma rhywbeth reit cheeky am y cwestiwn yna! O'n i wastad wedi cymryd bo bechgyn Brigyn ddim cweit mor cheeky a hynna. O'n i ddim yn disgwyl i Ynyr a Eurig fod mor “hei, fyswn i! Fysa ti?”. Alla i ddychmygu'r ddau ohonyn nhw yn y stiwdio neu mewn tacsi neu ar y bws yn gweld merch yn cerdded heibio ac yn dweud, “Faswn i! Fysa ti?”. Falle nid dyna ystyr y gân o gwbwl, ond faswn i. Probably.

Pam fod adar yn symud i fyw?
Dyw e ddim yn wyddonol gywir achos dyw nhw ddim yn symud i fyw, ma nhw'n symud dros y gaeaf i le gwell. Ac o ystyried y tywydd ni'n cael yn y wlad yma dwi'n meddwl bod e'n syniad eitha doeth. Felly ma nhw'n symud i rywle poeth - rhywle neisach - fel Sbaen neu Gogledd Affrica, a dy'n nhw ddim yn symud yna i fyw achos ma nhw'n dod nol wedyn i nythu. Felly dyna'r gwirionedd, ramadegol gywir, ffeithiol, wyddonol. Amen!

Be fedra i gynnig?
Sdim lot fawr 'da fi i gynnig rili. Yr unig beth alla i gynnig ydy lifft yn fy Land Rover i. Ma 'da fi hen Land Rover sydd 'di kitio allan fel campervan a ma 'da fe'r roof-rack mawr yma arni. Felly arwahan i’r ychydig sgiliau sydd gyda fi mewn bywyd, byddwn i yn gallu cynnig lifft i chi os chi'n digwydd hoffi mynd mewn Land Rovers sydd yn llawn dwr a sydd ddim yn dwym iawn. So alla'i gynnig hynna!

Ble mae'r bore?
Odd teitl y gân yma, neu'r cwestiwn yma, wastad yn atgoffa fi o partïon yr 80au hwyr a'r 90au cynnar, ble oedd pobl yn mynnu partïo reit trwy'r nos. A dwi'n siwr bo pobl ifanc yn dal i neud. Ond weithie, tua 4, 5 o'r gloch pan ma pobl dal i fyny'n siarad ac yn chwarae cerddoriaeth trwy'r PA systems ti'n meddwl, “ble exactly mae'r bore?” A chi'n dechre ysu am fynd i'r gwely a sylweddoli bo chi 'di troi yr holl ddiwrnod a'r holl noson yn beniwaered achos chi dal yn effro pryd ma'r haul yn dod i fyny pryd dylech chi fod yn y gwely ac yn codi, a chi'n mynd nol i'r gwely wedyn pryd ma'r haul wedi dod reit i fyny. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn neud unrhyw sens, ond yr holl deimlad yna o ble mae'r bore, dyw e ddim i fod i neud sens rili nagyw e?

Iawn del?
Yma yng Nghaerdydd dy' ni ddim yn gweud “Iawn del?” - yn amlwg mae'n rhywbeth o'r gogledd. Yng Nghaerdydd yn arbennig da ni'n dweud “Alright love?”. A'r dyddie yma ma “Alright love?” neu “Iawn del?” yn rhywbeth sydd jyst yn gyfarch hamddenol, rhywbeth neis chi'n ddweud wrth rhywun. “Alright love?”. Ma'r math yna o beth 'di mynd yn amhoblogaidd achos bod e i fod yn sexist, ond yma yng Nghaerdydd, ma pobl jyst yn gweud “Alright love?” - chi'n dweud e ar y bys i bobol, i bobol chi ddim yn nabod, a dwi'n siwr bod yr un peth yn wir yn gweud “Iawn del?” i bobol. Ydy e'n dderbyniol? Sa i'n gwbod. Dwi dal i ddweud e! Alright love?!

Pwy sydd eisiau bod yn fawr?
Wel, dwi'n eitha tal. Dwi'n rhyw 6 troedfedd 4 modfedd, a alla i sicrhau chi bo fi ddim mo’yn bod yn fawr. Y rheswm ydy ma'n neud prynu trowsus yn anodd iawn - ma cael jins bron yn amhosib! Pan o'n i'n ifanc, os chi'n dal ac yn fawr chi yw'r person cyntaf sy'n cael trafferth mewn unrhyw pyb. Chi'n cerdded mewn i pyb gyda grwp o ffrindiau sydd i gyd yn normal, a wedyn os oes yna unrhyw fath o drafferth o gwbwl, ma pawb yn pigo ar y person sy'n dal! A fi oedd e, so dwi ddim isie bod yn dal ddim mwy diolch yn fawr iawn. Dwi ddim isie bod yn fawr chwaith.

Pwy sy'n rheoli'r donfedd?
Be sy'n ddiddorol am dechnoleg a'r byd sydd ohoni ar hyn o bryd, yw mae'n bosib mewn cwpwl o flynyddoedd fydd na ddim shwt beth â tonfedd. Ar hyn o bryd bydden i'n gweud taw Radio Cymru a Radio 1 sy'n rheoli'r donfedd, ond gyda symudiadau pobl yn gwrando onlinea satellite radio, a fydd shwd beth â tonfedd? Y peth yw bo pobl yn gallu dewis nawr. Dy’ nhw ddim yn gorfod gwrando ar Chris Moyles yn siarad yn y bore - ma nhw jyst yn gallu mynd ar Spotify a gwrando ar gerddoriaeth heb cael lleisau drwyddi draw. Mae'n dibynnu ar be chi moen ond ar hyn o bryd Radio Cymru a Radio 1 sy bia'r donfedd, ond bydden i'n meddwl mewn rhyw ddeg mlynedd bydd tonfeddi ddim yn bodoli dim mwy.

Fuoch chi erioed yn morio?
Do. Fe fues i'n morio ym Mae Ceredigion unwaith gyda mhlant, a o'n i 'di rhyfeddu ar gymaint o wahanieth sydd rhwng y tywydd ar dir carregog saff ac ar y môr. Hynny yw, chi'n gadael Dinbych y Pysgod a mae'n boeth a chi'n gwisgo crys-t a ma pawb yn hapus. Rhyw ddwyawr wedyn yn y glaw allan yng nghanol y môr, dodd pawb ddim cweit mor hapus. Odd gen i gynlluniau i fynd i morio eto eleni. A fod yn onest dydy mynd ar rhyw cruise bach o ddwyawr ddim rili yn morio. Dyw e ddim fel bo ti'n ymuno â'r Royal Navy neu'r Merchant Navy so dyw e ddim yn rili morio. Ond dyna'r agosa dwi di dod at forio, felly do, fe fues i yn morio!

Darllen mwy...

23/11/2009

Beth ddysgon ni wythnos dwethaf ar Gofod

Ma dawnsio 'burlesque' yn boblogaidd yng Nghaerdydd, ond ma 'na fwy o ferched na dynion yn y gynulleidfa, ac mae'n syndod mor ddel yw Gethin Evans mewn 'nipple tassels'... Ma Geth Thomas o Gwibdaith yn edrych yn debyg i Gordon Brown.

Fe gollodd Dewi Prysor ei ddannedd blaen yn Bratislava.

Ma Osian a Rhys o Yr Ods yn deall ceffylau a rasio. Teg yw dweud fod Griff a Gruff o yr Ods ddim yn deall ceffylau a rasio.

Pan oedd Al Lewis yn arddegwr, roedd ganddo bosteri Buffy The Vampire Slayer ar wal ei stafell wely. Liam Gallagher oedd yn addurno wal Dyl Mei, Jimi Hendrix oedd ar wal Gareth Bonello tra bod gan Jonsi a Rhys Mwyn bosteri George Best.

Ma Daf Nant o Sibrydion a BOB yn meddwl ei fod yn edrych fel Hugh Grant

Y Mws Piws yw hoff gwrw Cymreig ffermwyr ifanc Ysbyty Ifan

Ma Ian Gwyn Hughes yn poeni am faint o helynt ma loris yn creu wrth basio ei gilydd ar yr M1 am 5 o'r gloch ar brynhawn dydd Gwener.

Pan oedd Gareth Bonello yn fach, roedd e ishe bod yn ffotograffydd bywyd gwyllt pan oedd wedi tyfu lan. Astronaut oedd Dewi Prysor am fod. Roedd Owen Powell yn dipyn llai uchelgeisiol, gan obeithio fod yn gwagio bins Caerdydd. Roedd Dyl Mei am fod yn lofrudd a Tudur Owen ishe bod yn ddrymiwr.
Darllen mwy...

17/11/2009

Shwmae Shwmae Dyfrig Evans?


Dyfrig Evans gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Ddim yn ddrwg o gwbwl. Mae’n ddiwrnod braf ar ddiwedd haf a ma petha reit dda.

Blerwytirhwng?
Dwi newydd orffen ffilmio drama newydd wedi ei leoli yn Llandudno o’r enw ‘Blodau’, a dwi rhwng gorffan hwnna a di-weithdra! A dwi’n edrych mlaen i weld o ar y teledu yn amlwg.

Pwdi hwn?
Haha! Pwy ‘di hwn? Pwy ‘di pwy? Pwy ‘di be? Pwy ‘di honna? Ia. Pwy ‘di hwn?

Fyswn, fasat ti?
Hen fwstard y Sais?! Faswn i byth yn llowcio hwnna i gyd heb stecan, rhag ofn iddo fo losgi’n nhafod i.

Tybed lle ma hi heno?
Lle ma hi heno? Wel adra siwr yn disgwyl amdana i fatha bob tro arall, ond mi a’i adra heno. Ia, sa’n well i mi dwi’n meddwl.

Pwy sy’n rheoli’r donfedd?
Eto, hi sy’n rheoli, efo llawn rheswm i fod yn trio rheoli. Ma’n anodd rheoli rhwbath sydd ddim efo rheolaeth arno fo dwi’n meddwl. Dwi’m yn gwisgo sgert ond ma hi yn bendant yn gwisgo trowsus.

Lle ti di bod?
Dwi ‘di bod ar y ffair tu allan i’r castell ar y maes yng Nghaernarfon ar y peth seti na efo cheinia arna fo, a dwi’n teimlo’n reit chwil a deud y gwir.

I ble nawr?
Dwi’n gobeithio mynd i Alton Towers efo’r plant cyn diwedd gwyliau’r haf am fwy o reids sy’n neud i fi deimlo’n chwil. Stopio fi yfed gymaint.

Pwy ti’n mynd ‘da nawr?
Yr un un ddynas dwi bod yn mynd efo ers tua chwe mlynadd a hanner. Fy ngwraig annwyl.

Beth yw’r haf?
Yr haf i fi ydy diwrnoda lle di’r cloc ddim yn tician. Dim amser penodol mynd i’r gwely, a dim amser penodol i ddeffro. Ac yng Nghymru - yn anffodus - glaw a haul yn dod yn un.

Ydy o’n wir?
Ydy mae o’n wir, dwi yn dechra gwynnu. Dwi ddim yn rhoi lliw yn fy ngwallt achos ma gen i flew jinj ar fy ngwynab so ‘sa fo’n clasho. So dwi am adael iddo fo wynnu dwi’n meddwl a mynd yn hen efo dignity dal intact.

Wyt ti’n cofio?
Dwi’n cofio petha da a drwg ond hyd yn hyn ma’r petha da yn goroesi’r drwg.

Pwy sy’n dwad dros y bryn?
Dim ond un person sy’n dwad dros y bryn. Mae’n byw yn agos iawn i Nebo a bellach mae ei farf o’n wyn ac yn hir, a ma’n gwagu sach unwaith y flwyddyn bellach. Sef Bryn Fôn!

Darllen mwy...

13/11/2009

Beth ddysgon ni ar Gofod wythnos yma

Mae'n bwysig rhoi'r handbrake ymlaen ar ol parcio, hyd yn oed os jest yn picio i'r ty bach. Gofynwch i Alun Williams.

Ma Iwan o Cowbois Rhos Botwnnog yn edrych fel Bob Dylan.

Yn ol mam Elin Fflur, mi oedd yn bosib sgwrsio gyda'r gantores 'fel hen fenyw' pan oedd hi ond yn ferch bach...

Roedd Dyl Mei yn crio pan oedd ei rhieni yn rhoi recordiau Bob Dylan ymlaen pan oedd yn grwt. Ac odd gyda fe 'cow's lick' cwl!

Arwyr yr Ed Holden ifanc oedd Jim Reeves, Frank Sinatra a Diana Ross.

Mae Glyn Wise yn gallu bod yn ddyn llawer mwy grac nac y bydde chi'n disgwyl - yn enwedig am wleidyddiaeth!

Ma Huw Chiswell yn ffan o'r Swans, Gary Slaymaker ac Owen Powell yn dilyn Dinas Caerdydd, hanner Cymru yn cefnogi Lerpwl ac Elin Fflur, jest i fod yn wahanol, yn ffan Everton.

Y lle gorau ma Bethan Gwanas erioed wedi bod yw Antarctica.

Ma Mari Grug rhwng Elin a Lisa.

Ma Dan o Sibrydion yn edrych fel Johnny Rotten.

Pan oedd Ian Cottrell yn fach, roedd yn hoff o ddylunio dryllau newydd i gymeriadau Star Wars, ond pan oedd hyn a'n fwy soffistigedig, roedd yn well ganddo ddarllen Smash Hits.

Ma na bobol allan yna sy'n casglu unrhywbeth, gan gynnwys papur wrapio siocledi.
Darllen mwy...

Cwis Tafarn Gofod

Ma pawb yn licio cwis tafarn! Naethon ni setio lan cwis tafarn bach ar Gofod neithiwr rhwng criw o gogs a criw o hwntws. Allwn ni ddim ail-greu awyrgylch a chwrw yr Hen Llew Du yn Aberystwyth ar y blog, ond i'r sawl ohonnoch sydd a diddordeb rhoi weithgaredd i'r mater llwyd, dyma cwestiynau y cwis. Na i rhoi'r atebion lan ar Ddydd Llun!

Papur a phensil yn barod?

1. Beth oedd enw gwreiddiol Mickey Mouse?
2. Pa anifail sy'n cynhyrchu'r epil mwya?
3. Pwy oedd cyd actor/es Leornado di Caprio yn Titanic?
4. Pa fath o greadur yw'r 'bustard'?
5. Pwy sydd yn dal y record fel y gyrrwr Prydeinig ifancaf Formula 1?
6. Chwaraeodd Will Smith rhan Steven Hiller yn y ffilm 'Independence Day'. Beth oedd ei enw cod?
7. Mae yna ddau orsaf trens yn Llundain sydd a'r gair 'Cross' yn yr enw. Enwch y ddau.
8. Yn stori Hans Christian Andersen, beth oedd enw'r ferch a'i darganfuwyd mewn blodyn?
9. Pa dalaith yn America sy'n dechre a'r llythyren 'P'?
10. Yn 1996 pa frand gurodd Coca-cola i fel brand enwoca'r byd?
11. Pa wirod yw sylfaen y Black Russian?
12. Beth yw prifddinas Venezuela?
13. Ym mha ffilm naeth Jim Carrey chwarae rhan clerc banc o'r enw Stanley Ipkiss?
14. Pwy wlad yw cartref cwrw Grolsch?
15. Enwch y tri ffilm James Bond sydd a teitle un gair.
16. Enw pwy offeryn sy'n dod o'r geiriau Eidalaidd am meddal ag uchel?
17. Am beth yw'r llythyren 'V' yn DVD yn sefyll?
18. Ym mha flwyddyn y cafodd yr ebost cyntaf ei anfon?
19. Pwy beintiodd Y Swper Olaf (The Last Supper)?
20. Pa wlad yn Ne America sydd a'r enw Inca, sy'n golygu 'Gaeaf Oer'?
21. Pwy sy'n chwarae rhan Jinx ar Pobol Y Cwm?
22. Pwy sy'n cyflwyno 4Wal ar S4C?
23. Ymhle cynhaliwyd Sessiwn Fawr Dolgellau 2009?
24. Gorffenwch deitl can Geraint Lovgreen 'Nid Llwynog oedd yr...'
25 Ym mhw flwyddyn y sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth?

Atebion ar Ddydd Llun! Darllen mwy...

10/11/2009

Shwmae Shwmae Mari Grug?


Mari Grug gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Shwmae! Fi'n dda iawn diolch. Ma'r haul mas felly fi'n hapus.

Blerwytirhwng?
Wel, fi yw'r ganolig. Ma da fi chwaer hyn o'r enw Elin a chwaer ifancach o'r enw Lisa. Dwi'n eitha joio fod yn y canol ma rhaid i fi weud. Dwi byth ar ben fy hunan! Felly ie, dwi rhwng Elin a Lisa.

Pam fod eira'n wyn?
Wel, ma eira yn wyn achos bod eira yn adlewyrchu pelydrau o olau. Fi'n gyflwynydd tywydd felly yn anffodus pan ma'r tywydd yn ddiflas fel ma'i di bod dros yr haf eleni, pobl fel fi sy'n cael y bai. Ond pan ma'r haul mas a ma pawb yn joio, wel dwi'n boblogaidd tu hwnt! Ond fi'n eitha joio eira ma rhai di fi 'weud - mae'n oer, cwtsho lan yn y ty. Ond pan mae'r haul mas - dyna pan ma pawb yn hapus.

Beth yw'r haf?
Yr haf, yn syml, yw pan mae'r haul mas. Pan ma'r tywydd yn braf, pan ma'r haul yn gwenu a ni'n cael tywydd braf ar gyfer y Sioe Frenhinol, y Steddfod, a cyfle hefyd i fynd i'r traeth i dorheulo, ymlacio, bach o syrffio falle, bach o nofio yn y dwr. Felly haf, ie - bach o haul, ‘na gyd fi'n gofyn am!

Cenfigennus o be?
O bobl sy'n gallu darllen gwybodaeth a'i gofio fe'n syth. Rhyw fath o ffotograffic memory. Dyw e ddim 'da fi a sen i'n lico se fe gyda fi ma'n rhaid i fi weud. Pobl sy'n darllen gwybodaeth a ma nhw'n cofio fe'n syth a gallu ailgylchu fe a cofio fe am flynyddoedd.

Wyt ti'n gêm?
Ydw! Na'i drio unrhywbeth unwaith ma'n rhaid i fi weud. Fi wedi bod yn Glastonbury yn ganol y mwd, wedi gwersylla am 5 diwrnod heb gawod - ych! Dwi wedi neidio mas o awyren 15,000 o droedfeddi fyny i neud skydive. Yn fy ngwaith bob dydd, nes ddechre yn cyflwyno Planed Plant, wedi neud cwpwl o bethe amrywiol a nawr fi'n cyflwyno'r tywydd. Felly ydw, dwi'n gêm i unrhywbeth sen i'n gweud.

Lle ti di bod?
Bore ma dwi di bod yn y siop trin gwallt. Ma da fi briodas fory yn Caerwrangon - neu Worcester i chi a fi, felly fi'n gobeithio fydd y pâr sy'n priodu yn lico fy ngwallt newydd i.

Pwy wyt ti yn mynd da nawr?
Wel, dwi'n mynd mas gyda Gareth James a ni newydd ddyweddïo ers tua pythefnos felly dyma'r fodrwy - mae'n neis. Mae'n sparklo - ar hyn o bryd ta beth. Fe nathon ni gwrdd yn Ysgol y Preseli, felly ni'n dipyn o childhood sweethearts, a ni wedi bod gyda'n gilydd am bron i 8 neu 9 mlynedd felly tipyn o amser.

Tybed lle mae hi heno?
Wel heno dwi'n mynd i Gapel Salem yn Canton ar gyfer ymarfer Côrdydd. Fi'n canu gyda Côrdydd ers dros blwyddyn a hanner.

Ydy o'n wir?
Ydy, mae e'n wir. Dwi'n 24 mlwydd oed, a dwi'n dal i sugno fy mys!
Darllen mwy...

09/11/2009

Shwmae Shwmae Alex Jones?


Alex Jones gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Iawn, ie ie!

Blerwytirhwng?
Ar hyn o bryd rwy rhwng brecwast a cinio. Neu dou gar, achos yn llythrennol ar ôl bod fan hyn fi'n mynd syth i'r garej i rhoi fy nghar i nol - bydd e'n ddiwrnod trist iawn i’r car bach melyn - ac i bigo car newydd lan. Felly dwi rhwng dau gar - yn llythrennol!


Cenfigennus o be?
Mewn bywyd yn gyffredinol dwi'n genfigennus iawn o bobl sydd ddim yn poeni, achos dwi'n boenwraig - os yw hwnna'n air - o fri. Wastad yn poeni am rwbeth. Ond ar hyn o bryd, fi'n starfo gormod i boeni.

Pam fod adar yn symud i fyw?
Wel pam lai? Achos sen i'n aderyn ar hyn o bryd sen i'n cael ty parhaol yn Sbaen a ddim yn trafferthu i ddod nol fan hyn o gwbwl, achos bydde dy blu di wastad yn wlyb a dyw adar ddim yn defnyddio sychwyr gwallt! Felly dyna pam bo adar yn symud i fyw. Ife na'r cwestiwn? Ie, sen i'n aderyn, sen i'n aros mewn rhywle twym!

Be fedra i gynnig?
Alla i gynnig coffi os ych chi'n dod i'r ty. O ran talentau, alla'i neud dynwarediad o dolffin. Ond dwi ddim yn gwbod beth yw dolffin yn y Gymraeg!

Beth yw'r haf?
Ma'r haf yn rywbeth dy'n ni heb weld ers tua 1987 bydden i'n gweud. Mi oedd e'n boeth ac yn dwym lle oedd pobl yn bwyta hufen iâ ac yn gorwedd ar y traeth. Erbyn hyn ma'r haf yn meddwl bwyta chips yn y car ar ddwrnod glyb.
Ie, itha diflas a gweud y gwir. Dyw ‘haf’ ddim yn bodoli.

Pwy sy'n dwad dros y bryn?
Pwy sy'n dwad dros y bryn yn ddistaw ddistaw bach, a'i farf yn llaes yn wallt yn wyn a rhywbeth yn ei sach? Sion Corn! Nadolig! Fy hoff adeg i o'r flwyddyn.

Pwy sydd isio bod yn fawr?
Wel, dwi'n tybio fod yna lot o bobl sydd isie bod yn fawr. Ond so chi isie bod rhy fawr achos wedyn dych chi ddim yn gallu gwisgo sodle uchel, a ma hwnna'n drueni. Ond se'n i'n tybio taw'r pobl sydd isie bod yn fawr fwya, yn enwedig yn ystod yr haf a phethe, yw plant sydd isie mynd ar reids yn llefydd fel Oakwood a Alton Towers! Neu yn Disney yn America - y plant sy'n mynd lan i'r dyn, a chi'mod y pethe 'na ma rhaid i chi aros wrth eu ochr nhw i checo'ch taldra chi a wedyn dyw nhw ddim cweit yn ddigon tal i fynd ar y reid? -bydden i'n meddwl taw dyna'r bobl sydd wir isie bod yn fwy.

Wyt ti'n cofio?
Fy atgof cynhara, neu'r atgof cyntaf sgen i, yw fy chwaer yn cael ei geni yn ysbyty Treforys yn Abertawe. Odd bola tost 'da fi ar y pryd a o'n i wedi byta Mini Milk hufen iâ, a pan weles i'n chwaer am y tro cynta nes i chwydu dros ei phen hi i gyd!

Pam V?
Ma 'na bethe anffodus wastad yn digwydd i fi. Rhyw wythnos yn ôl gofynodd rhyw ddyn i fi sut i gyrraedd y maes parcio. A felly nes i rhoi cyfarwyddiadau iddo fe ac ar ôl esbonio sut i gyrraedd y maes parcio nes i weud “You look a lot like Gordon Brown” a medde fe, “That's because I am Gordon Brown”.

Fuoch chi erioed yn morio?
Dwi ddim wedi bod yn morio o'r blaen ond fe fues i'n canwio. Ond ma hwnna'n debyg ondyw e? Fues i'n canwio yng Nglan Llyn. Dwi'n casau dwr - unrhywbeth i wneud â dwr. Bues i bron a boddi ac ar ôl hanner diwrnod yng Nglan Llyn odd rhaid i fi fynd sha thre. Fues i ddim 'na 'to nes bo fi'n mynd i'r steddfod yn Bala - dim y tro yma, y tro cyn 'ny sef 1999 pan odd hi'n dwym iawn, ond ma hwnna'n stori wahanol. Felly na, fydda i ddim yn mynd i forio byth eto, na canwio, na nofio os alla i helpu 'ny.
Darllen mwy...