Helo a chroeso i blog Gofod. Yma, cewch wybodaeth am y rhaglen, gossip a phob math o wirioni arall.
Cyn mynd dim pellach, be am i ni gyflwyno ein cyflwynwyr, Gethin Evans ac Elen Gwynne.
Geth oedd y boi golygus yn Kentucky AFC, wedyn y boi Golygus yn Genod Droog, a wedyn y boi golygus yn Yucatan – a rheina yn dri o fandiau ,wyaf golygus y sin Gymraeg, mae’n shwr wnewch chi gytuno! Mae Geth wrth ei fodd yn cyflwyno Gofod, ond roedd yn nerfus am rhai o ofynion y byd teledu. I ddechrau, bu rhaid iddo gael torri ei wallt mewn siop barbwr go iawn am y tro cyntaf erioed. Doedd neb ond ei fam wedi cyffwrdd a’r cyrls cyn y diwrnod emosiynol yna. Mae ganddo ddillad newydd sbon ar gyfer Gofod, ac mae na si ar led fod y cynhyrchwyr hyd yn oed wedi ei berswadio i gymryd bath.
Mae Elen Gwynne yn tipyn o stad. Sori. Ma Elen Gwynne yn Tipyn o Stad. Ie, na le i chi di i gweld hi o’r blaen, Susan di Elen! Dros yr wythnosau nesa mi fydd Elen yn mynd i arddangosfa bop yn amgueddfa Sain Ffagan, cwrdd a reslar o Gaerdydd, yn ymweld a’r siop drin gwallt lle oedd Matthew Rhys yn mynd i gael ei short back and sides pan odd e’n grwt, a’n holi ser y byd Cymraeg gyda Geth ar y soffa yn stiwdio Gofod.
22/10/2009
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment