Tudur Owen gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gan Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.
Shwmae Shwmae?
Shoe-my, my-shoe. Make an effort - I do! Dyna oedd lein un o'r cymeriadau nes i ar “Mawr”. Dwi di cael lot o stic am hwnnw a dweud y gwir. Clive y Dysgwr. Lot o stic gan ddysgwyr yn rhyfadd ddigon. Ma ambell un wedi dod ata i yn traethu mod i yn neud hwyl am eu pennau nhw, ond nes i ddweud wrthyn nhw “I have absolutely no idea what you just said - can you say it in English please”, a ma nhw'n mynd yn wallgo wedyn!
Blerwytirhwng?
Fel arfer rhwng dau feddwl. Dwi yn un o'r pobl mwya amhendant yn y byd.
Dwi'n un ofnadwy am fethu neud penderfyniad - yn enwedig mewn dadl. Os oes yna ddadl wleidyddol neu rhwbath, dwi'n ffeindio fy hun yn gwrando ar un ochr ac yn mynd “o, o ia, ia, cytuno efo hynna” a ma rhywun arall yn dweud rhwbath arall a “o ia, ia dwi’n cytuno efo hynna hefyd”. Dwi'n ffeindio fy hun yn y canol. Dwi'n useless efo petha fel Question Time a unrhyw fath o ddadl.
Pwy sydd isio bod yn fawr?
Pawb. Dyla pawb fod isio bod yn fawr. Dwi'n meddwl ddylsa ni newid ein agwedd, o ran maint dwi'n feddwl wan. Dwi'n meddwl ddylsa pawb fod ac uchelgais i fod yn fawr, a troi ein trwynau ar bobl tenau. Sa'n arbed lot o broblemau i bobl. Os nathoch chi weld “Wall-E”, y byd 'na yn y gofod lle oedd pawb mor massive oddan nhw'm yn gallu symud, so oddan nhw'n gorwadd ar y gwlau 'ma a pobl yn cario tê iddyn nhw a phetha. Dwi'n meddwl ddylsa ni gyd fod yn dyheu am y math yna o fyd.
Fuoch chi erioed yn morio?
Dach chi wir ddim isio i fi ddechra siarad am hyn achos dwi'n un o'r pobl 'ma sy'n mwynhau be da ni yn alw yn “boat porn”. S'na ddim byd gwell genna i na injan outboard yn purrio fel cath. Felly yndw, dwi yn tueddu i fynd i forio a dwi'n ymddiddori mewn cychod. A dach chi rili ddim isio clywad fi'n siarad am gychod neu 'swn i yma drw'r dydd.
Pwy yn y byd wyt ti?
I fod yn hollol onast dwi ddim rhy saff erbyn wan pwy ydw i achos mae o'n rwbath sy'n mynd efo'r math o waith dwi'n neud. Pan dwi ar lwyfan yn neud stand-up fel fi fy hun, nid fi fy hun ydy o go iawn. Pan dwi'n neud o yn Gymraeg dwi'n y person yma ar y llwyfan, ond pan dwi'n neud o yn Lloegr ac yn Saesnag dwi'n ffeindio mod i'n math gwahanol o berson. Ie, dwi'm rhy saff pwy ydw i a dweud y gwir.
A yw fy enw i lawr?
Ydy, dwi'n gobeithio bod yn enw fi lawr. Yn aml neu pheidio ma'n enw fi i lawr yn anghywir. Yn enwedig pan dwi'n mynd i neud gigs yn Lloegr ma'n enw fi lawr ar y bil - yn y gwaelod fel arfer, mewn print bach iawn - fel arfer yn Tudor Owen, sydd yn weindio fi fyny. Ma'r MC yn fy nghyflwyno i fel Tudor Owen. Dwi'n trio cael o i ddeud Tudur Owen a'r ffordd ora dwi di cael nhw i gofio wan ydy dwi'n deud wrthyn nhw pan dach chi'n cyflwyno fi cofia “Ta-daaah” ond dipyn bach mwy efo “uuu” a “rrrr” a ma nhw'n mynd “Here is Tuduuuuuurrr” a ma hynny i weld yn gweithio. Ond ma na ambell un jyst wedi anghofio a dwi'n gweld nhw o gefn llwyfan pan ma nhw'n mynd ymlaen, “And the next act, all the way from Wales… Give him a cheer!” a wedyn dwi'n cerddad on achos dy'n nhw ddim yn cofio enw fi.
Fysat ti?
Bach o lubrication ella. Dria'i fo unwaith!
Pwy sy'n galw?
Dyna gwestiwn fydda i'n gofyn yn aml pan dwi'n clywed y ffôn. Dwi byth yn ateb ffôn os ydy o'n deud 'caller withheld their number'. Dwi'n eitha od am hynny. Dwi'm yn trystio pobl dienw felly. Dwi'n rhywun sy'n mwynhau technoleg a chware efo toys a petha felna ond mae o'n wbath dwi ddim yn licio am yr holl dechnoleg newydd ydy fod o'n creu byd anhysbys neu mae o'n medru rhoi y modd i bobl fod yn ddienw. Yr internet a ffôns a'r hyn a'r llall. A ma hynny yn mynd dipyn bach yn groes i'r graen i mi - dwi'n licio cael gweld pwy dwi'n siarad efo. Dwi'n licio cael delio efo bobl wynab yn wynab. Ma genna i reol pan dwi'n neud stand-up neu comedi o unrhyw fath - os nad mod i'n fodlon neud o i wynab rhywun, i'r gynulleidfa yna, wedyn ddylswn i ddim ei ddeud o. A dwi'n meddwl ddylsa pawb sticio at y rheol yna. Sa'n brafiach o lawar. Achos fysa na lot llai o gachwrs wedyn, ar y internet, yn ista wrth ymyl eu sgrins drwy'r nos yn wancio ac yn speitio bobol. Dach chi'n gwbod pwy ydach chi - y wancars.
Pam V
Pam V? Pam V? Dwi'n medru bod yn boring iawn. Ma'r rhan fwyaf o ddigrifwyr yn bobl boring iawn iawn iawn! A “V” ydy pump mewn rhifau Lladin. Dach chi'n gwbod pam? Achos oedd y bugeiliaid yn hen Rhufain ac yn yr hen Eidal a petha, oddan nhw'n naddu, yn cyfri defaid ac yn naddu - un fesul un - un ddafad, dwy, tair, pedair, a pan oddan nhw'n cyrraedd pump oddan nhw'n neud dwy farc ar y pren, a wedyn pan oeddan nhw'n cyrraedd yr ail bump oddan nhw'n rhoi dau farc ar draws - felly “X” ydy 10. Diddorol ynte? Deffrwch.
Ond odd genna'i ffrind odd ddim yn dda iawn efo rhifau lladin ac odd o'n taeru fod ei daid o wedi bod yn ymladd yn World War Eleven!
Pwy fedar molchi?
Fi. Dwi'n medru molchi, dwi'n falch o ddeud. Ond dwi hefyd o'r genhedlaeth yna sydd yn cofio - ella fod pobl yn neud o heddiw efo plant - ond pan o'n ni'n blant de, a dwi'n gobeithio na dim jyst teulu fi oedd, ond oddan ni mond yn cael wash unwaith yr wythnos - ar nos Sul fel arfer! Felly erbyn dydd Gwener ma'n siwr bo ni'n hymio drewi! Sydd yn od achos ma mhlant i heddiw yn golchi bob dydd - ond doddan ni ddim. Ma hynna'n disgusting. Sdim rhyfadd o'n i ddim yn cael cariadon. Nesh i ddechra golchi pan o'n i tua un ar hugain - bob dydd llu!
05/11/2009
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment