25/11/2009

Shwmae Shwmae Owen Powell?


Owen Powell gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Iawn, ie ie.

Blerwytirhwng?
Wel rhyw hanner ffordd - mewn gwirionedd union hanner ffordd - rhwng Gorllewin Cymru a Llundain. Mae 'na bentref bach o'r enw Caerdydd, ac yna dwi ar hyn o bryd. Bydden i’n hoffi bod yng Ngorllewin Cymru yn neud llai o waith. Falle dylwn ni fod yn Llundain yn neud fwy o waith! Ond yma dwi'n hapus, so Caerdydd sydd pia hi.

Cenfigennus o be?
Dwi wastad wedi bod yn genfigennus o gerddorion sydd yn gallu chwarae pob offeryn felly ma nhw'n neud albyms, a dim ond nhw sy'n chwarae arnyn nhw. Elliot Smith - cerddor Americanaidd; Shuggie Otis - cerddor ffync o'r 70au. Chwarae pob offeryn! Todd Rundgren yn un arall. Prince! Stevie Wonder! Ychydig iawn o bobl gwledydd Prydain a Cymru sydd yn neud y math yma o beth, ma'n rhywbeth sy'n perthyn i Americanwyr. Felly dwi'n genfigennus o gerddorion Americanwyr yn gyffredinol!

Faswn i, fysa ti?
Ma rhywbeth reit cheeky am y cwestiwn yna! O'n i wastad wedi cymryd bo bechgyn Brigyn ddim cweit mor cheeky a hynna. O'n i ddim yn disgwyl i Ynyr a Eurig fod mor “hei, fyswn i! Fysa ti?”. Alla i ddychmygu'r ddau ohonyn nhw yn y stiwdio neu mewn tacsi neu ar y bws yn gweld merch yn cerdded heibio ac yn dweud, “Faswn i! Fysa ti?”. Falle nid dyna ystyr y gân o gwbwl, ond faswn i. Probably.

Pam fod adar yn symud i fyw?
Dyw e ddim yn wyddonol gywir achos dyw nhw ddim yn symud i fyw, ma nhw'n symud dros y gaeaf i le gwell. Ac o ystyried y tywydd ni'n cael yn y wlad yma dwi'n meddwl bod e'n syniad eitha doeth. Felly ma nhw'n symud i rywle poeth - rhywle neisach - fel Sbaen neu Gogledd Affrica, a dy'n nhw ddim yn symud yna i fyw achos ma nhw'n dod nol wedyn i nythu. Felly dyna'r gwirionedd, ramadegol gywir, ffeithiol, wyddonol. Amen!

Be fedra i gynnig?
Sdim lot fawr 'da fi i gynnig rili. Yr unig beth alla i gynnig ydy lifft yn fy Land Rover i. Ma 'da fi hen Land Rover sydd 'di kitio allan fel campervan a ma 'da fe'r roof-rack mawr yma arni. Felly arwahan i’r ychydig sgiliau sydd gyda fi mewn bywyd, byddwn i yn gallu cynnig lifft i chi os chi'n digwydd hoffi mynd mewn Land Rovers sydd yn llawn dwr a sydd ddim yn dwym iawn. So alla'i gynnig hynna!

Ble mae'r bore?
Odd teitl y gân yma, neu'r cwestiwn yma, wastad yn atgoffa fi o partïon yr 80au hwyr a'r 90au cynnar, ble oedd pobl yn mynnu partïo reit trwy'r nos. A dwi'n siwr bo pobl ifanc yn dal i neud. Ond weithie, tua 4, 5 o'r gloch pan ma pobl dal i fyny'n siarad ac yn chwarae cerddoriaeth trwy'r PA systems ti'n meddwl, “ble exactly mae'r bore?” A chi'n dechre ysu am fynd i'r gwely a sylweddoli bo chi 'di troi yr holl ddiwrnod a'r holl noson yn beniwaered achos chi dal yn effro pryd ma'r haul yn dod i fyny pryd dylech chi fod yn y gwely ac yn codi, a chi'n mynd nol i'r gwely wedyn pryd ma'r haul wedi dod reit i fyny. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn neud unrhyw sens, ond yr holl deimlad yna o ble mae'r bore, dyw e ddim i fod i neud sens rili nagyw e?

Iawn del?
Yma yng Nghaerdydd dy' ni ddim yn gweud “Iawn del?” - yn amlwg mae'n rhywbeth o'r gogledd. Yng Nghaerdydd yn arbennig da ni'n dweud “Alright love?”. A'r dyddie yma ma “Alright love?” neu “Iawn del?” yn rhywbeth sydd jyst yn gyfarch hamddenol, rhywbeth neis chi'n ddweud wrth rhywun. “Alright love?”. Ma'r math yna o beth 'di mynd yn amhoblogaidd achos bod e i fod yn sexist, ond yma yng Nghaerdydd, ma pobl jyst yn gweud “Alright love?” - chi'n dweud e ar y bys i bobol, i bobol chi ddim yn nabod, a dwi'n siwr bod yr un peth yn wir yn gweud “Iawn del?” i bobol. Ydy e'n dderbyniol? Sa i'n gwbod. Dwi dal i ddweud e! Alright love?!

Pwy sydd eisiau bod yn fawr?
Wel, dwi'n eitha tal. Dwi'n rhyw 6 troedfedd 4 modfedd, a alla i sicrhau chi bo fi ddim mo’yn bod yn fawr. Y rheswm ydy ma'n neud prynu trowsus yn anodd iawn - ma cael jins bron yn amhosib! Pan o'n i'n ifanc, os chi'n dal ac yn fawr chi yw'r person cyntaf sy'n cael trafferth mewn unrhyw pyb. Chi'n cerdded mewn i pyb gyda grwp o ffrindiau sydd i gyd yn normal, a wedyn os oes yna unrhyw fath o drafferth o gwbwl, ma pawb yn pigo ar y person sy'n dal! A fi oedd e, so dwi ddim isie bod yn dal ddim mwy diolch yn fawr iawn. Dwi ddim isie bod yn fawr chwaith.

Pwy sy'n rheoli'r donfedd?
Be sy'n ddiddorol am dechnoleg a'r byd sydd ohoni ar hyn o bryd, yw mae'n bosib mewn cwpwl o flynyddoedd fydd na ddim shwt beth â tonfedd. Ar hyn o bryd bydden i'n gweud taw Radio Cymru a Radio 1 sy'n rheoli'r donfedd, ond gyda symudiadau pobl yn gwrando onlinea satellite radio, a fydd shwd beth â tonfedd? Y peth yw bo pobl yn gallu dewis nawr. Dy’ nhw ddim yn gorfod gwrando ar Chris Moyles yn siarad yn y bore - ma nhw jyst yn gallu mynd ar Spotify a gwrando ar gerddoriaeth heb cael lleisau drwyddi draw. Mae'n dibynnu ar be chi moen ond ar hyn o bryd Radio Cymru a Radio 1 sy bia'r donfedd, ond bydden i'n meddwl mewn rhyw ddeg mlynedd bydd tonfeddi ddim yn bodoli dim mwy.

Fuoch chi erioed yn morio?
Do. Fe fues i'n morio ym Mae Ceredigion unwaith gyda mhlant, a o'n i 'di rhyfeddu ar gymaint o wahanieth sydd rhwng y tywydd ar dir carregog saff ac ar y môr. Hynny yw, chi'n gadael Dinbych y Pysgod a mae'n boeth a chi'n gwisgo crys-t a ma pawb yn hapus. Rhyw ddwyawr wedyn yn y glaw allan yng nghanol y môr, dodd pawb ddim cweit mor hapus. Odd gen i gynlluniau i fynd i morio eto eleni. A fod yn onest dydy mynd ar rhyw cruise bach o ddwyawr ddim rili yn morio. Dyw e ddim fel bo ti'n ymuno â'r Royal Navy neu'r Merchant Navy so dyw e ddim yn rili morio. Ond dyna'r agosa dwi di dod at forio, felly do, fe fues i yn morio!

Darllen mwy...

23/11/2009

Beth ddysgon ni wythnos dwethaf ar Gofod

Ma dawnsio 'burlesque' yn boblogaidd yng Nghaerdydd, ond ma 'na fwy o ferched na dynion yn y gynulleidfa, ac mae'n syndod mor ddel yw Gethin Evans mewn 'nipple tassels'... Ma Geth Thomas o Gwibdaith yn edrych yn debyg i Gordon Brown.

Fe gollodd Dewi Prysor ei ddannedd blaen yn Bratislava.

Ma Osian a Rhys o Yr Ods yn deall ceffylau a rasio. Teg yw dweud fod Griff a Gruff o yr Ods ddim yn deall ceffylau a rasio.

Pan oedd Al Lewis yn arddegwr, roedd ganddo bosteri Buffy The Vampire Slayer ar wal ei stafell wely. Liam Gallagher oedd yn addurno wal Dyl Mei, Jimi Hendrix oedd ar wal Gareth Bonello tra bod gan Jonsi a Rhys Mwyn bosteri George Best.

Ma Daf Nant o Sibrydion a BOB yn meddwl ei fod yn edrych fel Hugh Grant

Y Mws Piws yw hoff gwrw Cymreig ffermwyr ifanc Ysbyty Ifan

Ma Ian Gwyn Hughes yn poeni am faint o helynt ma loris yn creu wrth basio ei gilydd ar yr M1 am 5 o'r gloch ar brynhawn dydd Gwener.

Pan oedd Gareth Bonello yn fach, roedd e ishe bod yn ffotograffydd bywyd gwyllt pan oedd wedi tyfu lan. Astronaut oedd Dewi Prysor am fod. Roedd Owen Powell yn dipyn llai uchelgeisiol, gan obeithio fod yn gwagio bins Caerdydd. Roedd Dyl Mei am fod yn lofrudd a Tudur Owen ishe bod yn ddrymiwr.
Darllen mwy...