23/10/2009

Bang Bangor!



Ma ishe dechre’r pethe ‘ma gyda Bang ond oes? A phwy fang sa’n well dechre cyfres newydd gyda na Bang Bangor, gwyl newydd sbon sy’n gaddo llenwi pob twll a chornel o Fangor gyda chelf a cherddoriaeth. Naethon ni glywed gen nifer o fonheddigion a bonheddigesau Bangor am y llefydd orau i fynd a bandiau i’w clywed dros y penaythnos ar rhaglen gyntaf Gofod, felly does na ddim esgusodion nawr i golli unrhywbeth. Mae’r lineups a gwybodaeth am tocynnau ag ati i gyd ar wefan Bang Bangor - http://www.bangbangor.com/.


Ma na gymaint i ddweud am y gyfres newydd yma. Gobeithio y dewch chi i nabod rhai o’r cymeriadau a’r syniadau ty ol i’r rhaglen dros yr wythnosau nesa, felly dwi ddim am ddweud pob dim nawr a sbwylio’r syrpreis ond mae’n rhaid son yn fras am Tacsi Michael. Mae’n rhaid eich bod chi di caels sgwrs gyda gyrrwr tacsi siaradus rhywdro neu gilydd. Wel dyna Michael, i’r dim. Gyrrwr tacsi o Fethesda sy’n hoff o glonc yw Michael, ac mi fydd yn rhoi lifft i nifer o enwogion Cymru dros yr wythnosau nesa. A’r person cyntaf i neidio i fewn i’r car – a sgwrsio yn fwy agored nag i chi erioed wedi clywed o’r blaen? Y gwr yma!
Darllen mwy...

22/10/2009

Croeso i Gofod!

Helo a chroeso i blog Gofod. Yma, cewch wybodaeth am y rhaglen, gossip a phob math o wirioni arall.

Cyn mynd dim pellach, be am i ni gyflwyno ein cyflwynwyr, Gethin Evans ac Elen Gwynne.
Geth oedd y boi golygus yn Kentucky AFC, wedyn y boi Golygus yn Genod Droog, a wedyn y boi golygus yn Yucatan – a rheina yn dri o fandiau ,wyaf golygus y sin Gymraeg, mae’n shwr wnewch chi gytuno! Mae Geth wrth ei fodd yn cyflwyno Gofod, ond roedd yn nerfus am rhai o ofynion y byd teledu. I ddechrau, bu rhaid iddo gael torri ei wallt mewn siop barbwr go iawn am y tro cyntaf erioed. Doedd neb ond ei fam wedi cyffwrdd a’r cyrls cyn y diwrnod emosiynol yna. Mae ganddo ddillad newydd sbon ar gyfer Gofod, ac mae na si ar led fod y cynhyrchwyr hyd yn oed wedi ei berswadio i gymryd bath.

Mae Elen Gwynne yn tipyn o stad. Sori. Ma Elen Gwynne yn Tipyn o Stad. Ie, na le i chi di i gweld hi o’r blaen, Susan di Elen! Dros yr wythnosau nesa mi fydd Elen yn mynd i arddangosfa bop yn amgueddfa Sain Ffagan, cwrdd a reslar o Gaerdydd, yn ymweld a’r siop drin gwallt lle oedd Matthew Rhys yn mynd i gael ei short back and sides pan odd e’n grwt, a’n holi ser y byd Cymraeg gyda Geth ar y soffa yn stiwdio Gofod. Darllen mwy...