09/11/2009

Shwmae Shwmae Alex Jones?


Alex Jones gymerodd rhan yn ein holiadur 'Shwmae Shwmae' wythnos yma ar Gofod - lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.

Shwmae Shwmae?
Iawn, ie ie!

Blerwytirhwng?
Ar hyn o bryd rwy rhwng brecwast a cinio. Neu dou gar, achos yn llythrennol ar ôl bod fan hyn fi'n mynd syth i'r garej i rhoi fy nghar i nol - bydd e'n ddiwrnod trist iawn i’r car bach melyn - ac i bigo car newydd lan. Felly dwi rhwng dau gar - yn llythrennol!


Cenfigennus o be?
Mewn bywyd yn gyffredinol dwi'n genfigennus iawn o bobl sydd ddim yn poeni, achos dwi'n boenwraig - os yw hwnna'n air - o fri. Wastad yn poeni am rwbeth. Ond ar hyn o bryd, fi'n starfo gormod i boeni.

Pam fod adar yn symud i fyw?
Wel pam lai? Achos sen i'n aderyn ar hyn o bryd sen i'n cael ty parhaol yn Sbaen a ddim yn trafferthu i ddod nol fan hyn o gwbwl, achos bydde dy blu di wastad yn wlyb a dyw adar ddim yn defnyddio sychwyr gwallt! Felly dyna pam bo adar yn symud i fyw. Ife na'r cwestiwn? Ie, sen i'n aderyn, sen i'n aros mewn rhywle twym!

Be fedra i gynnig?
Alla i gynnig coffi os ych chi'n dod i'r ty. O ran talentau, alla'i neud dynwarediad o dolffin. Ond dwi ddim yn gwbod beth yw dolffin yn y Gymraeg!

Beth yw'r haf?
Ma'r haf yn rywbeth dy'n ni heb weld ers tua 1987 bydden i'n gweud. Mi oedd e'n boeth ac yn dwym lle oedd pobl yn bwyta hufen iâ ac yn gorwedd ar y traeth. Erbyn hyn ma'r haf yn meddwl bwyta chips yn y car ar ddwrnod glyb.
Ie, itha diflas a gweud y gwir. Dyw ‘haf’ ddim yn bodoli.

Pwy sy'n dwad dros y bryn?
Pwy sy'n dwad dros y bryn yn ddistaw ddistaw bach, a'i farf yn llaes yn wallt yn wyn a rhywbeth yn ei sach? Sion Corn! Nadolig! Fy hoff adeg i o'r flwyddyn.

Pwy sydd isio bod yn fawr?
Wel, dwi'n tybio fod yna lot o bobl sydd isie bod yn fawr. Ond so chi isie bod rhy fawr achos wedyn dych chi ddim yn gallu gwisgo sodle uchel, a ma hwnna'n drueni. Ond se'n i'n tybio taw'r pobl sydd isie bod yn fawr fwya, yn enwedig yn ystod yr haf a phethe, yw plant sydd isie mynd ar reids yn llefydd fel Oakwood a Alton Towers! Neu yn Disney yn America - y plant sy'n mynd lan i'r dyn, a chi'mod y pethe 'na ma rhaid i chi aros wrth eu ochr nhw i checo'ch taldra chi a wedyn dyw nhw ddim cweit yn ddigon tal i fynd ar y reid? -bydden i'n meddwl taw dyna'r bobl sydd wir isie bod yn fwy.

Wyt ti'n cofio?
Fy atgof cynhara, neu'r atgof cyntaf sgen i, yw fy chwaer yn cael ei geni yn ysbyty Treforys yn Abertawe. Odd bola tost 'da fi ar y pryd a o'n i wedi byta Mini Milk hufen iâ, a pan weles i'n chwaer am y tro cynta nes i chwydu dros ei phen hi i gyd!

Pam V?
Ma 'na bethe anffodus wastad yn digwydd i fi. Rhyw wythnos yn ôl gofynodd rhyw ddyn i fi sut i gyrraedd y maes parcio. A felly nes i rhoi cyfarwyddiadau iddo fe ac ar ôl esbonio sut i gyrraedd y maes parcio nes i weud “You look a lot like Gordon Brown” a medde fe, “That's because I am Gordon Brown”.

Fuoch chi erioed yn morio?
Dwi ddim wedi bod yn morio o'r blaen ond fe fues i'n canwio. Ond ma hwnna'n debyg ondyw e? Fues i'n canwio yng Nglan Llyn. Dwi'n casau dwr - unrhywbeth i wneud â dwr. Bues i bron a boddi ac ar ôl hanner diwrnod yng Nglan Llyn odd rhaid i fi fynd sha thre. Fues i ddim 'na 'to nes bo fi'n mynd i'r steddfod yn Bala - dim y tro yma, y tro cyn 'ny sef 1999 pan odd hi'n dwym iawn, ond ma hwnna'n stori wahanol. Felly na, fydda i ddim yn mynd i forio byth eto, na canwio, na nofio os alla i helpu 'ny.

No comments:

Post a Comment