30/11/2009

Beth ddysgon ni wythnos dwethaf ar Gofod

Ma ffilm newydd Gruff Rhys, Seperado!, yn wych – ac roedd Geth yn flin am nad oedd yn cael mynd mewn i’w weld.

Ma Michael y Tacsi yn hapus i helpu Malcolm Allen allan gyda’i ffurflen dreuliau...

Llysenw Geth oedd FA Cup yn yr ysgol am fod ganddo glustiau mor fawr. Ma gyda rhai o enwogion Cymru lysenwau da – John Bwts yw John Pierce Jones a Honey Monster yw Ifan o Derwyddon, gyda’i wallt melyn a’i wallgofrwydd meddwol. Ond mae gan y cyhoedd lysenwau gwell fyth, Hari Tampon, er engraifft. Ydych chi’n cofio pam ma nhw’n galw fe’n Hari Tampon?

Ma Owen Powell yn genfigennus o gerddorion sy’n gallu canu mwy nag un offeryn.

Ma Geth yn hoff o fwyd poeth, allith e ddim fyw heb gyri, ond ma Elen yn hoff o fwyd mwy melus – fferins ydy’r peth y galle hi fyth byw hebddo.

No comments:

Post a Comment