23/10/2009

Bang Bangor!



Ma ishe dechre’r pethe ‘ma gyda Bang ond oes? A phwy fang sa’n well dechre cyfres newydd gyda na Bang Bangor, gwyl newydd sbon sy’n gaddo llenwi pob twll a chornel o Fangor gyda chelf a cherddoriaeth. Naethon ni glywed gen nifer o fonheddigion a bonheddigesau Bangor am y llefydd orau i fynd a bandiau i’w clywed dros y penaythnos ar rhaglen gyntaf Gofod, felly does na ddim esgusodion nawr i golli unrhywbeth. Mae’r lineups a gwybodaeth am tocynnau ag ati i gyd ar wefan Bang Bangor - http://www.bangbangor.com/.


Ma na gymaint i ddweud am y gyfres newydd yma. Gobeithio y dewch chi i nabod rhai o’r cymeriadau a’r syniadau ty ol i’r rhaglen dros yr wythnosau nesa, felly dwi ddim am ddweud pob dim nawr a sbwylio’r syrpreis ond mae’n rhaid son yn fras am Tacsi Michael. Mae’n rhaid eich bod chi di caels sgwrs gyda gyrrwr tacsi siaradus rhywdro neu gilydd. Wel dyna Michael, i’r dim. Gyrrwr tacsi o Fethesda sy’n hoff o glonc yw Michael, ac mi fydd yn rhoi lifft i nifer o enwogion Cymru dros yr wythnosau nesa. A’r person cyntaf i neidio i fewn i’r car – a sgwrsio yn fwy agored nag i chi erioed wedi clywed o’r blaen? Y gwr yma!

No comments:

Post a Comment