26/10/2009

Plac Glas i Duffy


Cyn Warwick Avenue, cyn yr arian, yr enwogrwydd, cyn Wow Ffactor, hyd yn oed, roedd gan Dyffy swydd. Pwy a wyr beth oedd yn mynd trwy ei meddwl tra'n gweithio yn siop Politos? Falle i hi feddwl am alawon, neu geiriau. Falle iddi ganu bob bore ar ei ffordd i fewn, ac eto ar ei ffordd gatre. Yr hyn sy'n bwysig yw fod Gofod wedi gosod Plac Glas ar y siop yma, fel gwelwch chi yn y llun, er mwyn i'r Cymry cael gwybod fod un o'n trysorau cenedlaethol wedi bod ar staff y siop ddillad fach yma yng Ngogledd Cymru.

Oes na lefydd eraill, tybed, y dyle ni fod yn dathlu yn y ffordd yma? Bu Elvis yn gweithio yn eich siop jips leol? Naeth Dafydd Iwan sgwennu Yma o Hyd yn eich stafell ffrynt? Rhowch wybod! Mi fyddwn ni yn gosod placiau glas mewn lleoliadau o bwys i'r genedl yn wythnosol ar Gofod, felly postiwch eich awgrymiadau isod...

1 comment: