22/06/2010


Heno ar Gofod. os ydych chi yn ffan o hysbysebion cwmniau cymharu yswiriant arlein, gyda cantorion opera yn canu sloganau'r cwmni nerth eu pen yna ma'n RHAID i chi wylio Gofod heno i'n gweld ni yn gosod Plac Glas sy'n dathlu llwyddiant Cymro sy'n enwog iawn am ei hysbyseb arddull opera am wefanau cymharu yswiriant. Allwch chi ddyfalu am bwy i ni yn son? A beth arall sydd ar rhaglen heno, mi glywaf chi'n gofyn. Wel. Neb llai na HUW STEPHENS yn y tacsi gyda Michael. A hynny yn Llundain. Yr hyfryd Alex Jones sydd ar y soffa gyda Geth ac Elen, mae'r daith i ffeindio Mr Ffermwr Ifanc yn mynd i Feirionydd, Y Bandana yn perfformio i'w ffans ac (a ma hwn yn sbeshal) eitem o bencampwriaethau darts Cymru yn Lakeside Cymru - Prestatyn. Tiwniwch mewn!

No comments:

Post a Comment