18/06/2010

Pishyn yr wythnos
Ma Gofod wastad yn hoff o gwrdd a merched a hyd yn oed bechgyn dela Cymru. Y 'pishyn' cynta i ni gwrdd a oedd Lowri Davies, cynorthwydd dysgu o Ddinbych. Ma hi'n hoff o golff, mynd allan ar nos Sadwrn a mwy nag unrhywbeth arall, karaoke. Yn wir, ma Lowri mor hoff o nosweithi o ganu karaoke ei bod yn dweud fod rhid i'w dyn delfrydol fod yn ffan hefyd. Ar ben hynny, ma'n rhaid iddo fod yn dal a'n gyfoethog. Ond byse hyd yn oed dyn o'r fath yn ei chael yn anodd cystadlu a'r demtasiwn i fynd i Gaer am benwythnos gyda'r merched i aros mewn gwesty ac, wrth gwrs, canu karaoke - y ffordd perffaith i dreulio penwythnos yn ol Lowri.

1 comment:

  1. widi wiw!! oes na fwy o luniau plis?

    ReplyDelete